Yn ddiweddar, mynychodd aelodau cangen Cymru gwrs ardystio Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith. Mae'r cwrs a ddarperir gan Wasanaethau Hyfforddi Dracarys yn Abertawe yn ddyfarniad Lefel 3 (RQF) ac mae'n ymdrin â phynciau fel gweithredu mewn argyfwng, dadebru ac AED, clwyfau a gwaedu.
Mae'r cwrs yn galluogi aelodau a hyfforddwyr i ddarparu gwasanaeth cymorth cyntaf yn ystod cyrsiau blasu a digwyddiadau i aelodau. Diolch i Mr John Cutter o Wasanaethau Hyfforddi Dracarys am y cyfarwyddyd a'r wybodaeth ardderchog a basiwyd ymlaen.