NAWR WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN. Cwrs Wal Cerrig Sych am Ddim

Llun o Gystadleuaeth Gwrhyd 2024

Fel rhan o Ŵyl Gerrig Mynydd Gwrhyd 2024 bydd DSWA Cymru yn cynnal penwythnos blasu am ddim ar y 7fed – 8fed Medi 2024 ar Fynydd Gwrhyd. Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i bobl dros 18 oed (yn amodol ar rai cyfyngiadau). Bydd cyfranogwyr yn cael gwybod sut i dynnu wal bresennol i lawr sydd mewn cyflwr gwael. Byddant wedyn yn cael eu dangos sut i adeiladu wal gerrig sych o sylfeini i gopaon.

I gofrestru ar gyfer y cwrs mae'n rhaid i chi fod:
- Gallu corfforol codi cerrig a gweithio diwrnod 8 awr
- Yn byw yn sir Castell-nedd a Phort Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin neu Bowys.
– Gallu mynychu'r cwrs ar y 7fed – 8 Medi 2024.


Bydd cyfranogwyr yn cael offer amddiffynnol personol a nwyddau wal eraill!